Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2023 Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs
Newyddion
Cylchlythyr
Mae cylchlythyr Gaeaf ar gael i’w lawrlwytho yma.
Raffl Eisteddfod Ynys Mon
Enillydd Raffl Cymdeithas Brodwaith Cymru 2017 a dynnwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn oedd Mrs
Alwen Prys Jones, Llangybi.
Llongyfarchiadau mawr!
Cylchlythyr
Mae cylchlythyr yr Haf ar gael i’w lawrlwytho yma.
Cwrs Preswyl Plas Tan y Bwlch - 3-4 Mawrth 2018
Dyma fraslun o’r cwrs uchod dan ofal Esyllt Jones
Yn y lle cyntaf fe fydd cyfle i gyfuno pwythau i greu llyfyr cyfair pwythau efallai yna defnyddio'r pwythau i
greu gwaith fel y glustog. Defnyddir pob math o ddefnyddiau - gallant fod yn gotwm/ yn felfed/ yn frethyn/
neu sidan efallai. Ar ôl rhoi rhain ar gefndir priodol yna pwytho a chreu "crazy quilting" a defnyddio amrywiaeth
o bwythau i addurno.
Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith Cymru 2017
Enillydd yr ysgoloriaeth eleni yw Elin Anghard Evans o Benegoes, Machynlleth. Mae yn fyfyrwraig yn ei thrydedd
flwyddyn ym mhrifysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn astudio cwrs Artist, Designer Maker. Mae'r cwrs yn un newydd
ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr arbrofi a phob agwedd o'r Ysgol Gelf drwy weithio gyda phren, metel, cerameg, a
thecstilau cyn cymryd eu llwybr eu hunain mewn defnydd penodol.
Tecstilau oedd yn cymryd ei bryd yn benodol erbyn yr ail flwyddyn, lledr. Mae lledr yn ddefnydd unigryw iawn,
mae'n gnawd, gyda'r gallu i gael ei drawsnewid i bob ffurf, mae arbrofi gyda'r defnydd hwn yn rhoi pleser mawr
iddi. Yn anffodus nid yw lledr yn faes eang iawn, roedd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r defnydd hwn.
Mae gweithio gyda lledr yn rhoi rhyddid iddi i fund ati i arbrofi, a chymysgu defnyddiau eraill gyda lleder. Mae'n
rhoi boddhad mawr iddi weld ei dyluniadau 2D yn datblygu i mewn 3D.
Yn y dyfodol hoffai barhau i greu cynnyrch lledr o waith llaw, gan arbrofi, ac yn y pen draw, creu cynnyrch
unigryw gyda stamp ei hun arno.
Ysgoloriaeth
Mae’r Gymdeithas yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn i fyfyriwr Cymraeg sy’n mynd i goleg i ddilyn cwrs
tecstiliau. Gall yr ysgoloriaeth olygu hyd at £500 a gellir rhannu os bydd mwy nag un ymgeisydd yn deilwng.
Gellir rhoi cyfle i enillydd yr ysgoloriaeth arddangos ei waith ar stondin y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweler y ffurflen gais am weddill y manylion a sut i wneud cais.
Dathlu 150 mlynedd
Eleni bydd llawer o ddathliadau yn cael eu cynnal i nodi 150 mlynedd
oddi ar y Mimosa hwylio o Lerpwl i Dde America ac i’r Cymry cyntaf
lanio ym Mhorth Madryn yn Archentina.
Penderfynodd y Gymdeithas lunio brodwaith i nodi’r achlysur.
Joyce Jones gynlluniodd y gwaith sy’n dangos hanes y Wladfa – Y
Mimosa yn hwylio, yr ogof ym Morth Madryn lle y credir i’r anturwyr
orfod aros am beth amser cyn cael llety mwy parhaol, y tŷ cyntaf,
y capel cyntaf, y gamlas a’r trên cyntaf. Heb y rhain byddai wedi
bod yn amhosibl byw mewn lle mor anial. Gwelir y gacen ddu sy’n
debyg i fara brith ond yn defnyddio’r unig
gynhwysion oedd ar gael ar y dechrau. Gwelir logo yr eisteddfod a’r ysgol Gymraeg. Y prif nodwedd yw’r bwrdd
te, rhywbeth y cysylltwn ni Gymry â’r Wladfa a’r hyn y mae pobl Patagonia yn ei ystyried yn rhywbeth
traddodiadol Gymreig. Pwythwyd enwau’r prif drefi ac hefyd enwau’r rhai a fu bennaf gyfrifol am y fenter.
Seiliwyd cynllun y plât, y cwpan a’r soser ar batrwm plât Nantgarw sydd yn cael ei arddangos ym Mhlas Glyn
y Weddw, man arall sydd â chysylltiad â’r Wladfa.
Dosbarthodd Joyce y gwaith brodio i sawl aelod o’r Gymdeithas. Daeth y gwaith i ben erbyn Eisteddfod
Genedlaethol Sir Gâr y llynedd a chafodd ei arddangos ar stondin y Gymdeithas. Y gobaith yw y caiff y gwaith ei
arddangos mewn nifer o ganolfannau yn y Wladfa yn ystod y deunaw mis nesaf ac y caiff ei ddychwelyd maes o
law a’i arddangos yn barhaol yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Diolch i Joyce am ei chyfraniad i’r prosiect hwn eto ac am ei gwaith dyfal a graenus.
Clogyn Newydd Eisteddfod yr Urdd
Yn 2014 penderfynodd y brodweithwyr greu clogyn newydd ar gyfer seremoniau Eisteddfod yr Urdd. Mae’r
clogyn i’w weld yn cael ei ddefnyddio yn y prif seremoniau erbyn hyn – defnyddiwyd gwlanen Gymreig fel
defnydd cefndir. Megan Williams y wniadwraig fedrus o Drefor fu’n gyfrifol am y gwaith brodio peiriant ar y
wlanen i greu’r gwead arbennig, cyn i aelodau Cangen Y Bala o dan arweiniad Mair Rees fynd ati i weithio ar y
cynllun, a grewyd gan Joyce Jones, Cricieth, sylfaenydd y Gymdeithas Frodwaith. Mae dau fathodyn yr Urdd ar
flaen y clogyn wedi’u brodio â thri gwahanol bwyth cynfas.
Gan fod y clogyn yn cael ei ddefnyddio mewn seremonïau’r gwahanol gystadlaethau – Y Fedal Gyfansoddi, Y
Fedal Ddrama, Medal y Dysgwyr, Y Goron a’r Gadair. Penderfynwyd ffeltio siap y bathodyn yn y lliwiau priodol a
brodio delweddau’r cystadlaethau hyn arno. Gosodwyd peipyn o frethyn coch yn forder i’r gwaith, a’i bwytho
i’w le gydag edau werdd.
Cylchlythyr
Mae cylchlythyr Gaeaf 2018/19 ar gael i’w lawrlwytho yma.
Cwrs Preswyl yn Plas Tan y Bwlch
Cynhaliwyd Cwrs Preswyl yn Plas Tan y Bwlch ar y 9-10fed o Fawrth, 2019 o dan arweiniad Esyllt Jones.
Cafwyd cwrs ar 'crazy quilting' a dewisiodd y rhan fwyaf oedd yn bresennol wneud clustog, eraill llyfryn bach o
bwythau, ac un neu ddwy clawr llyfr. Defnyddiwyd amrywiaeth o bwythau i addurno, ar ddefnyddiau
cotwm, melfed, brethyn neu sidan.
Enillydd Ysgoloriaeth CBC 2018 - Elin Jones, Y Felinheli.
Mae Elin yn astudio Textiliau Lefel 4 - ym Mhrifysgol Metropolotan Caerdydd yn gweithio tuag at gradd BA (ANRH)
Dyma ychydig o’i hanes:
Rwyf wedi bod gyda diddordeb mewn gwaith llaw ers pan oeddwn yn fychan ac wedi mwynhau cystadlu mewn
eisteddfodau trwy gyfrwng tscstiliau. Dechreuodd fy niddordeb yn gwylio Nain yn gwnio, a phan yn hŷn byddwn
yn hoffi ymlacio trwy wnio darnau bychan fy hun a gwneud croesbwyth.
Rwyf ar fy mlwyddyn gyntaf yn dilyn cwrs tectiliau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd gan ddysgu sut i ddefnyddio’r
peiriannau a’r adnoddau. Hyd yn hyn, rwyf wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio’r offer yn yr ystafell brintio
gan fod hwn yn brofiad newydd i mi. Rwyf hefyd yn mwynhau cydweithio gyda pobl sydd ar fy nghwrs, er
enghraifft bu i ni gynllunio ‘surface design’ ar gan frodweithio gyda pheirant. Fy hoff math o waith llaw yw
brodwaith, rwyf yn mwynhau tynnu llun gyda nodwydd ac edau.
Rhai o’r diddordebau eraill rwyf yn eu mwynhau yw braslunio, creu lluniau ac yn eithaf diweddar rwyf wedi
dechrau ar y grefft o ‘needlefelting’. Fy mreuddwyd yn y dyfodol fuasai cael busness fy hun yn creu gemwaith
trwy decstiliau wedi graddio.
Arddangosfa y Gogledd Ddwyrain, Rhuthun
Crefftau a grewyd dros y cyfnod clo ac yn ystod y (18 mis diwethaf)
Aelodau Cymdeithas Brodwaith Cymru - Cangen Cricieth
Prosiect yw hwn sydd wedi ai drefnu gan Cyngor Tref Cricieth i adfer a chofio enwau caeau yr ardal sy’n
brysur fynd yn angof dwi’n siwr.
Mae’r cwbl yn cael ei gydlynu gan Joyce ac mae’r dosbarth gwnio wrthi’n brysur yn brodio’r cyfan. Bydd
cyfres o luniau, hefyd wedi eu brodio, yn cynrychioli hanes Cricieth yn cael eu gosod o gwmpas y brodwaith.
Y gobaith yw y bydd y cyfanwaith yn cael ei arddangos yn lleol yn y flwyddyn newydd.
Dyma dri llun o waith crefft gan Rhiannon Evans, Cangen Y Bala
Gwaith Mair Rees, Cangen Y Bala
Dyma lun o'r bag bach fues i'n neud dros y cyfnod clo - 'Elizabethan ground stitch' mewn edau fetelaidd
yw'r cefndir arian.
Gwaith Glesni Jones, Cangen Y Bala.
Crosio
Blanced - granny square (piws, melyn a gwyrdd)
Cwshin - sunburst granny square (gwyn, pinc a piws)
Cwshin zig zag puff stitch (brown golau a gwyn)
Cwningen - (llwyd a gwyn) - dilyn video ar youtube
Gwaith Medwen Charles - Cangen Y Bala
3 wennol ydynt mewn gwaith du. wrth gwrs roedd yn rhaid cael 3 wennol achos ni wnaith un wennol Wanwyn!!
Sampler o wahanol Bwythau
Sampler yw hwn o wahanol bwythau yr ydym wedi ei ddysgu o dan law Mair Rees yn y gwersi Cymdeithas Brodwaith. roedd dipyn o waith
ar hwn - a roddodd oriau o bleser i mi ag erbyn ei orffen roeddym wedi dysgu chwaneg o bwythau a thechnegau. hwn yn un arall o bethau
a gofodd ei orffen yn ystod y cyfnod clo!!
Clustog - pecyn oedd hwn a brynais rhai blynyddoedd yn nol - cefais amser dros y cyfnod clo i'w orffen. Mae yn glustog lliwgar iawn.
Patrwn 'pinwheel' ydio (ddim yn siwr be ydio yn gymraeg!!!)
Clustog 'Crazy Quilting' yw y patrwm yma.
Murlun yn Anrheg i Ysgol Godre’r Berwyn gan ddosbarth Cangen Meirionnydd
Daeth Ysgol y Berwyn yn Y Bala a dwy o ysgolion cynradd sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant i ben ddiwedd tymor yr Haf 2019, ac fe agorwyd
Ysgol Godre’r Berwyn fis Medi 2019 gan greu ysgol gydol oes ar gyfer disgyblion 3- 19 oed, ar hen safle Ysgol y Berwyn.
I ddathlu’r achlysur penderfynwyd ein bod fel dosbarth brodwaith o gangen Meirionnydd am rhoi murlun yn anrheg i’r ysgol ac fe fu amryw o'r
dosbarth yn brodio darnau o'r cynllun - mewn dull gwaith stwmp a brodio ar ddefnydd sy'n toddi mewn dwr.
Cefndir y cynllun yw'r pedwar tymor ar fynydd y Berwyn - wedi ei baentio ar galico a'i frodio a pheirant a changhennau'r goeden yn dangos amryw o'r
pynciau fydd y plant yn ddysgu yn yr ysgol.
Mae enw'r ysgol wedi ei weithio mewn les nodwydd a'r cyfan wedi'w fframio mewn ffram dderw.
Hyn i gyd dan ofal medrus ein tiwtor Mair Rees, gyda llawer iawn o ddiolch iddi am ei hamser i ddylunio a rhoi’r cyfan at ei gilydd.
Cyflwynwyd y murlun i brifathrawes yr ysgol Bethan Emyr Jones, roedd yn ddiolchgar iawn am y murlun, a byddai’r gwaith brodwaith yn cael
lle haeddianol iawn yn yr ysgol.
Llun 1af – aelodau Cymdeithas Brodwaith Y Bala gyfrannodd tuag wneud y Murlun
Llun ail - Cyflwyno'r Murlun i brifathrawes Bethan Emyr Jones, Ysgol Godre'r Berwyn, gyda Mair Rees,
tiwtor a Iola Williams, Cadeirydd Cangen Y Bala.
Llun 3ydd - Y Murlun
Lluniau drwy garedigrwydd Ffotograffydd Evan L Dobson, Y Bala
Arddangosfa Cymdeithas Brodwaith Dosbarth y Canolbarth
gynhaliwyd yn y Morlan, Aberystwyth 24ai o Fedi 2022
Roedd yma Arddangosfa wych o waith da ac wedi cael ei gosod allan yn gelfydd
iawn yn nhrefn y tymhorau. Arbennig iawn.