Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2023 Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs
Archif
Raffl Eisteddfod Y Fenni
Enillwyr y raffl yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fenni oedd -
Nesta Richards o Bentrellyncymer ger Cerrigydrudion, a Mary
Jones, Hoddnant, Parc y Plas, Aberporth.
Diolch i bawb a gefnogodd y raffl ar gwerthiant ar y stondin.
Penwythnos Preswyl
Lluniau Cwrs Penwythnos Preswyl yn Plas Tanybwlch fis Mawrth dan hyfforddiant Eirlys Savage a'i merch Bethan.
Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith Cymru 2016
Llongyfarchiadau i Gwen Lloyd Thomas enillodd
Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith Cymru eleni.
Merch fferm o ardal Padog, Betws-y-Coed yw Gwen.
Aeth i ysgolion Ysbyty Ifan a Dyffryn Conwy ac yna
'mlaen i Goleg Metropolitan Caerdydd i ddilyn cwrs
gradd BA Tecstiliau. Mae ar ei hail flwyddyn ac yn
cael pleser mawr yn arbrofi gyda thechnegau
gwahanol yn defnyddio sawl math o ffabrig ac offer.
Ar hyn o bryd mae'n arbrofi gyda gwahanol fathau o
brintio ar ffabrig ac yna addurno a phwythau
amrywiol. Mae hi'n hoff iawn o weithio a pheiriant
neu waith llaw.
Teimlai'n ddiolchgar iawn o dderbyn yr ysgoloriaeth.
"Nawr," meddai hi," gallaf brynu rhannau arbennig at
fy mheiriant gwnio fydd yn fy ngalluogi i arbrofi
ymhellach, a chael prynu ffabrigau arbennig at fy
ngwaith"
Dymuniadau gorau iddi a hwyl ar y pwytho.
Ysgoloriaeth
Mae’r Gymdeithas yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn i fyfyriwr Cymraeg sy’n mynd i goleg i ddilyn cwrs
tecstiliau. Gall yr ysgoloriaeth olygu hyd at £500 a gellir rhannu os bydd mwy nag un ymgeisydd yn deilwng.
Gellir rhoi cyfle i enillydd yr ysgoloriaeth arddangos ei waith ar stondin y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gweler y ffurflen gais am weddill y manylion a sut i wneud cais.
Gwen Thomas
Gwaith Gwen Thomas yn cael ei arddangos ar y stondin yn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fenni 2016.