Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2024 Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs

Croeso i wefan

Cymdeithas Brodwaith Cymru

Lansiwyd Cymdeithas Brodwaith Cymru yn Awst 1998. Amcanion y

Gymdeithas yw annog, meithrin a hyrwyddo brodwaith trwy gyfrwng yr

iaith Gymraeg. Diffinnir brodwaith fel unrhyw waith sydd yn addurno gan

ddefnyddio edau a nodwydd.

Mae'r Gymdeithas yn trefnu • cyrsiau • dosbarthiadau • teithiau • arddangosfeydd yn cynnwys y gwahanol fathau o frodwaith. Trefnir y gweithgareddau hyn mewn ardaloedd ledled Cymru, ac nid oes angen arbenigrwydd i ymuno â’r Gymdeithas, dim ond diddordeb mewn hyrwyddo a mwynhau'r grefft trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso i ddysgwyr Cymraeg gael cyfle i ymarfer yr iaith a dysgu’r grefft ar yr un pryd! Mae llawer o fanteision o fod yn aelod o'r Gymdeithas. Am £5 y flwyddyn cewch: • gwmnïaeth rhai â’r un diddordeb • cyfle i ddysgu sgiliau a chrefftau newydd • cefnogaeth ariannol i ddilyn cyrsiau hyfforddi • gostyngiad mewn rhai siopau crefftau • peiriannau arddurno ar gael i’w benthyca • cyfarfodydd cymdeithasol • dau gylchlythyr ac un patrwm brodwaith y flwyddyn I gael rhagor o fanylion cysylltwch â: craigytan@btinternet.com I ymaelodi cliciwch yma.

Arddangosfa’r Gymdeithas, Aberystwyth

Gwelwch lluniau o’r Arddangosfa y Gogledd Ddwyrain, Aberystwyth ar y tudalen newyddion

Arddangosfa’r Gymdeithas

Gwelwch lluniau o’r Arddangosfa y Gogledd Ddwyrain, Aberystwyth ar y tudalen newyddion

Croeso i wefan

Cymdeithas

Brodwaith

Cymru

Lansiwyd Cymdeithas Brodwaith

Cymru yn Awst 1998. Amcanion

y Gymdeithas yw annog,

meithrin a hyrwyddo brodwaith

trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Diffinnir brodwaith fel unrhyw

waith sydd yn addurno gan