Ysgoloriaeth y Gymdeithas

Enillydd Ysgoloriaeth CBC 2023 - Lowri James, Porth Lowri James oedd enillydd Ysgoloriaeth Y Gymdeithas eleni (2023). Mae’n dod o’r Porth yn y Rhondda ac ar ei blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Frenhinol Gwniadwaith yn Llundain yn dilyn cwrs gradd pedair mlynedd. Cyn hynny roedd wedi mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yna coleg y Cymoedd. Brodwaith llaw yw’r cwrs ac mae wedi bod yn creu brodwaith ers pan oedd yn 10 oed a dywed ei bod yn cael ei hysbrydoli gan ei Chymreictod - yn arbennig hanes, chwedlau a barddoniaeth Gymraeg yn ogystal â’i chartref yng Nghwm Rhondda. Creodd fap llawn brodwaith llynedd oedd yn cynnwys delweddau oedd yn ei hatgoffa o’i chartref. Mae’n mwynhau dylunio yn fwyaf ac yna wrth ei bodd yn creu gwaith gan ddefnyddio’r technegau mae’n ddysgu yn y coleg. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn ffasiwn ac yn hoffi cynnwys brodwaith yn ei gwaith yn y byd hwnnw gan feddwl am ffyrdd i uwchgylchu ffasiwn mewn ffordd greadigol ac eco-gyfeillgar. Gan iddi ddysgu brodwaith mewn cymuned fechan hoffai’n fawr fynd ati i rannu’r technegau arbennig yma gydag eraill mewn cymunedau bychain ac mae ganddi ddiddordeb gweithio gyda brodwaith hanesyddol, mewn amgueddfeydd yn arbennig. Yr oedd y Gymdeithas yn unfrydol yn cytuno fod Lowri yn llawn haeddu’r ysgoloriaeth eleni a dyfarnwyd rhoi y swm llawn o £500 iddi.

Ysgoloriaeth

Mae’r Gymdeithas yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn i fyfyriwr Cymraeg sy’n mynd i goleg i ddilyn cwrs tecstiliau. Gall yr ysgoloriaeth olygu hyd at £1000 a gellir rhannu os bydd mwy nag un ymgeisydd yn deilwng. Gellir rhoi cyfle i enillydd yr ysgoloriaeth arddangos ei waith ar stondin y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gweler y ffurflen gais am weddill y manylion a sut i wneud cais - llawrlwythwch yma.

Enillydd Ysgoloriaeth CBC 2018 - Elin Jones, Y Felinheli.

Mae Elin yn astudio Textiliau Lefel 4 - ym Mhrifysgol Metropolotan Caerdydd yn gweithio tuag at gradd BA (ANRH) Dyma ychydig o’i hanes: Rwyf wedi bod gyda diddordeb mewn gwaith llaw ers pan oeddwn yn fychan ac wedi mwynhau cystadlu mewn eisteddfodau trwy gyfrwng tscstiliau. Dechreuodd fy niddordeb yn gwylio Nain yn gwnio, a phan yn hŷn byddwn yn hoffi ymlacio trwy wnio darnau bychan fy hun a gwneud croesbwyth. Rwyf ar fy mlwyddyn gyntaf yn dilyn cwrs tectiliau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd gan ddysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau a’r adnoddau. Hyd yn hyn, rwyf wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio’r offer yn yr ystafell brintio gan fod hwn yn brofiad newydd i mi. Rwyf hefyd yn mwynhau cydweithio gyda pobl sydd ar fy nghwrs, er enghraifft bu i ni gynllunio ‘surface design’ ar gan frodweithio gyda pheirant. Fy hoff math o waith llaw yw brodwaith, rwyf yn mwynhau tynnu llun gyda nodwydd ac edau. Rhai o’r diddordebau eraill rwyf yn eu mwynhau yw braslunio, creu lluniau ac yn eithaf diweddar rwyf wedi dechrau ar y grefft o ‘needlefelting’. Fy mreuddwyd yn y dyfodol fuasai cael busness fy hun yn creu gemwaith trwy decstiliau wedi graddio.

Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith Cymru 2016

Llongyfarchiadau i Gwen Lloyd Thomas enillodd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith Cymru eleni. Merch fferm o ardal Padog, Betws-y-Coed yw Gwen. Aeth i ysgolion Ysbyty Ifan a Dyffryn Conwy ac yna 'mlaen i Goleg Metropolitan Caerdydd i ddilyn cwrs gradd BA Tecstiliau. Mae ar ei hail flwyddyn ac yn cael pleser mawr yn arbrofi gyda thechnegau gwahanol yn defnyddio sawl math o ffabrig ac offer. Ar hyn o bryd mae'n arbrofi gyda gwahanol fathau o brintio ar ffabrig ac yna addurno a phwythau amrywiol. Mae hi'n hoff iawn o weithio a pheiriant neu waith llaw. Teimlai'n ddiolchgar iawn o dderbyn yr ysgoloriaeth. "Nawr," meddai hi," gallaf brynu rhannau arbennig at fy mheiriant gwnio fydd yn fy ngalluogi i arbrofi ymhellach, a chael prynu ffabrigau arbennig at fy ngwaith" Dymuniadau gorau iddi a hwyl ar y pwytho.

Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith Cymru 2017

Enillydd yr ysgoloriaeth eleni yw Elin Anghard Evans o Benegoes, Machynlleth. Mae yn fyfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn ym mhrifysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn astudio cwrs Artist, Designer Maker. Mae'r cwrs yn un newydd ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr arbrofi a phob agwedd o'r Ysgol Gelf drwy weithio gyda phren, metel, cerameg, a thecstilau cyn cymryd eu llwybr eu hunain mewn defnydd penodol. Tecstilau oedd yn cymryd ei bryd yn benodol erbyn yr ail flwyddyn, lledr. Mae lledr yn ddefnydd unigryw iawn, mae'n gnawd, gyda'r gallu i gael ei drawsnewid i bob ffurf, mae arbrofi gyda'r defnydd hwn yn rhoi pleser mawr iddi. Yn anffodus nid yw lledr yn faes eang iawn, roedd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r defnydd hwn. Mae gweithio gyda lledr yn rhoi rhyddid iddi i fund ati i arbrofi, a chymysgu defnyddiau eraill gyda lleder. Mae'n rhoi boddhad mawr iddi weld ei dyluniadau 2D yn datblygu i mewn 3D. Yn y dyfodol hoffai barhau i greu cynnyrch lledr o waith llaw, gan arbrofi, ac yn y pen draw, creu cynnyrch unigryw gyda stamp ei hun arno.
Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2023 Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs

Ysgoloriaeth y

Gymdeithas

Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2023 Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs
Enillydd Ysgoloriaeth CBC 2023 - Lowri James, Porth Lowri James oedd enillydd Ysgoloriaeth Y Gymdeithas eleni (2023). Mae’n dod o’r Porth yn y Rhondda ac ar ei blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Frenhinol Gwniadwaith yn Llundain yn dilyn cwrs gradd pedair mlynedd. Cyn hynny roedd wedi mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yna coleg y Cymoedd. Brodwaith llaw yw’r cwrs ac mae wedi bod yn creu brodwaith ers pan oedd yn 10 oed a dywed ei bod yn cael ei hysbrydoli gan ei Chymreictod - yn arbennig hanes, chwedlau a barddoniaeth Gymraeg yn ogystal â’i chartref yng Nghwm Rhondda. Creodd fap llawn brodwaith llynedd oedd yn cynnwys delweddau oedd yn ei hatgoffa o’i chartref. Mae’n mwynhau dylunio yn fwyaf ac yna wrth ei bodd yn creu gwaith gan ddefnyddio’r technegau mae’n ddysgu yn y coleg. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn ffasiwn ac yn hoffi cynnwys brodwaith yn ei gwaith yn y byd hwnnw gan feddwl am ffyrdd i uwchgylchu ffasiwn mewn ffordd greadigol ac eco- gyfeillgar. Gan iddi ddysgu brodwaith mewn cymuned fechan hoffai’n fawr fynd ati i rannu’r technegau arbennig yma gydag eraill mewn cymunedau bychain ac mae ganddi ddiddordeb gweithio gyda brodwaith hanesyddol, mewn amgueddfeydd yn arbennig. Yr oedd y Gymdeithas yn unfrydol yn cytuno fod Lowri yn llawn haeddu’r ysgoloriaeth eleni a dyfarnwyd rhoi y swm llawn o £500 iddi.

Ysgoloriaeth

Mae’r Gymdeithas yn cynnig ysgoloriaeth bob blwyddyn i fyfyriwr Cymraeg sy’n mynd i goleg i ddilyn cwrs tecstiliau. Gall yr ysgoloriaeth olygu hyd at £1000 a gellir rhannu os bydd mwy nag un ymgeisydd yn deilwng. Gellir rhoi cyfle i enillydd yr ysgoloriaeth arddangos ei waith ar stondin y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gweler y ffurflen gais am weddill y manylion a sut i wneud cais - llawrlwythwch yma.

Enillydd Ysgoloriaeth CBC 2018 - Elin Jones, Y

Felinheli.

Mae Elin yn astudio Textiliau Lefel 4 - ym Mhrifysgol Metropolotan Caerdydd yn gweithio tuag at gradd BA (ANRH) Dyma ychydig o’i hanes: Rwyf wedi bod gyda diddordeb mewn gwaith llaw ers pan oeddwn yn fychan ac wedi mwynhau cystadlu mewn eisteddfodau trwy gyfrwng tscstiliau. Dechreuodd fy niddordeb yn gwylio Nain yn gwnio, a phan yn hŷn byddwn yn hoffi ymlacio trwy wnio darnau bychan fy hun a gwneud croesbwyth. Rwyf ar fy mlwyddyn gyntaf yn dilyn cwrs tectiliau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd gan ddysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau a’r adnoddau. Hyd yn hyn, rwyf wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio’r offer yn yr ystafell brintio gan fod hwn yn brofiad newydd i mi. Rwyf hefyd yn mwynhau cydweithio gyda pobl sydd ar fy nghwrs, er enghraifft bu i ni gynllunio ‘surface design’ ar gan frodweithio gyda pheirant. Fy hoff math o waith llaw yw brodwaith, rwyf yn mwynhau tynnu llun gyda nodwydd ac edau. Rhai o’r diddordebau eraill rwyf yn eu mwynhau yw braslunio, creu lluniau ac yn eithaf diweddar rwyf wedi dechrau ar y grefft o ‘needlefelting’. Fy mreuddwyd yn y dyfodol fuasai cael busness fy hun yn creu gemwaith trwy decstiliau wedi graddio.

Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith

Cymru 2016

Llongyfarchiadau i Gwen Lloyd Thomas enillodd Ysgoloriaeth Cymdeithas Brodwaith Cymru eleni. Merch fferm o ardal Padog, Betws-y-Coed yw Gwen. Aeth i ysgolion Ysbyty Ifan a Dyffryn Conwy ac yna 'mlaen i Goleg Metropolitan Caerdydd i ddilyn cwrs gradd BA Tecstiliau. Mae ar ei hail flwyddyn ac yn cael pleser mawr yn arbrofi gyda thechnegau gwahanol yn defnyddio sawl math o ffabrig ac offer. Ar hyn o bryd mae'n arbrofi gyda gwahanol fathau o brintio ar ffabrig ac yna addurno a phwythau amrywiol. Mae hi'n hoff iawn o weithio a pheiriant neu waith llaw. Teimlai'n ddiolchgar iawn o dderbyn yr ysgoloriaeth. "Nawr," meddai hi," gallaf brynu rhannau arbennig at fy mheiriant gwnio fydd yn fy ngalluogi i arbrofi ymhellach, a chael prynu ffabrigau arbennig at fy ngwaith" Dymuniadau gorau iddi a hwyl ar y pwytho.

Ennillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas

Brodwaith Cymru 2017