Cymdeithas Brodwaith Cymru © 2023 Lluniwyd y wefan a’i chynnal gan H G Web Designs
Croeso i wefan
Cymdeithas Brodwaith Cymru
Lansiwyd Cymdeithas Brodwaith Cymru yn Awst 1998. Amcanion y
Gymdeithas yw annog, meithrin a hyrwyddo brodwaith trwy gyfrwng yr
iaith Gymraeg. Diffinnir brodwaith fel unrhyw waith sydd yn addurno gan
ddefnyddio edau a nodwydd.
Mae'r Gymdeithas yn trefnu
• cyrsiau
• dosbarthiadau
• teithiau
• arddangosfeydd yn cynnwys y gwahanol fathau o frodwaith.
Trefnir y gweithgareddau hyn mewn ardaloedd ledled Cymru, ac nid oes angen arbenigrwydd i ymuno â’r
Gymdeithas, dim ond diddordeb mewn hyrwyddo a mwynhau'r grefft trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae croeso i ddysgwyr Cymraeg gael cyfle i ymarfer yr iaith a dysgu’r grefft ar yr un pryd!
Mae llawer o fanteision o fod yn aelod o'r Gymdeithas.
Am £5 y flwyddyn cewch:
• gwmnïaeth rhai â’r un diddordeb
• cyfle i ddysgu sgiliau a chrefftau newydd
• cefnogaeth ariannol i ddilyn cyrsiau hyfforddi
• gostyngiad mewn rhai siopau crefftau
• peiriannau arddurno ar gael i’w benthyca
• cyfarfodydd cymdeithasol
• dau gylchlythyr ac un patrwm brodwaith y flwyddyn
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â: craigytan@btinternet.com
I ymaelodi cliciwch yma.
Arddangosfa’r Gymdeithas, Aberystwyth
Gwelwch lluniau o’r Arddangosfa y Gogledd Ddwyrain, Aberystwyth ar y tudalen newyddion